Churchill, Manitoba

Y dref
Machlud dros y porthladd

Mae Churchill ar arfordir Bae Hudson, ar aber Afon Churchill, ym Manitoba, Canada. Mae gan y dref boblogaeth o oddeutu 1000 o bobl.

Does dim ffordd i Churchill; rhaid cyrraedd ar awyren neu ar drên VIA Rail i orsaf reilffordd Churchill o Winnipeg, tua 1000 milltir i ffwrdd.[1] Mae'r dref yn denu twristiaid i weld eirth gwynion a morfilod beluga.[2]

  1. Gwefan VIA Rail
  2. Gwefan National Geographic

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search